Datganiad Hygyrchedd ar gyfer gwefan GLOBAL-RURAL

English version

Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i’r holl dudalennau gwe sy’n dechrau www.global-rural.org

Rheolir y wefan hon gan Brifysgol Aberystwyth. Rydym yn dymuno i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, bwriedir eich bod yn gallu:

  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin
  • newid maint arddangos tudalennau i’w gwneud yn haws eu gweld a’u darllen
  • clywed disgrifiad testun o lawer o’r delweddau ar y wefan

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • nid oes disgrifiadau testun ar gael ar gyfer pob delwedd
  • nid oes isdeitlau na thrawsgrifiadau testun ar rai fideos wedi’u hymgorffori ar hyn o bryd

·       mae rhai mapiau a siartiau’n defnyddio lliw i wahaniaethu rhwng data neu gategorïau nad ydynt efallai’n glir i bawb

  • nid yw’r cyferbyniad rhwng lliwiau yn ddigonol mewn ambell fan

·       ar hyn o bryd dim ond ar ffurf pdf y gellir defnyddio rhai lawrlwythiadau o ddogfennau a chyflwyniadau lle na ellir newid maint ffont a thestun i’w gwneud yn haws eu darllen

I gael manylion, gweler ein datganiad hygyrchedd technegol.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os bydd angen gwybodaeth o’r wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print mawr, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, a fyddech cystal â chysylltu â ni.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Os dewch o hyd i broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y tudalennau hyn neu os ydych yn meddwl nad ydym yn ateb gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.

Y drefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sectorau Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon â’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).